Closed tender

Adolygiad Busnes Celfyddydau & Busnes Cymru

Details

Topic
Business and management consultancy and related services
Published
29 April 2024
Submission
24 May 2024

Tender description

C&B Cymru yw’r unig sefydliad Cymreig sy’n arbenigo mewn dod â’r sector preifat a’r celfyddydau at ei gilydd er budd y ddau faes fel ei gilydd. Gyda 36 mlynedd o brofiad, a rhwydwaith sy’n ymestyn i bob cwr o’r wlad, mae’n bwynt cyswllt amhrisiadwy ar gyfer y cannoedd o sefydliadau a phobl a wasanaethir ganddo. Mae’r tîm yn cydweithio’n agos gyda’i 240+ o aelodau, sy’n amrywio o ymarferwyr unigol ym maes y celfyddydau i sefydliadau creadigol blaenllaw, a busnesau – o fasnachwyr unigol i gorfforaethau rhyngwladol.Mae C&B Cymru yn gwybod, pan ddaw busnes a’r celfyddydau at ei gilydd mewn gwir bartneriaeth, y bydd y ddau faes yn magu cryfder, a’r effaith bositif i’w theimlo’n amlwg ar y gymdeithas ehangach. Mae’r gwaith hwn yn gwneud cyfraniad uniongyrchol a phell-gyrhaeddol tuag at sicrhau Cymru decach a mwy ffyniannus.Drwy ffocysu ar ddatblygu incwm a sgiliau, mae C&B Cymru yn annog arloesedd, gwytnwch a chynaliadwyedd yn y celfyddydau. Mae ei waith yn annog llai o ddibyniaeth ar arian cyhoeddus, ac yn cefnogi creu modelau busnes cydnerth, gan helpu i gryfhau’r sail economaidd i’r sector yng Nghymru.Ar gyfer busnesau, mae C&B Cymru yn darparu atebion unigryw i heriau craidd drwy gyfrwng y celfyddydau. Mae’r elusen yn hwyluso partneriaethau wedi eu teilwrio’n arbennig, gan ddefnyddio technegau creadigol i gyflenwi llwyddiant y gellir ei fesur. Drwy ei rwydwaith eang a’i arbenigedd, mae C&B Cymru yn helpu busnesau i ddelio â nodau Marchnata, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Datblygu Staff mewn dulliau effeithiol, wedi eu ffocysu.Mae disgrifiad llawn o raglen a gwasanaethau C&B Cymru i’w weld yn Atodiad 2.Y Sefyllfa Bresennol a’r Rheswm dros yr ArolwgEr bod mwy o alw nag erioed ym maes y celfyddydau am wasanaethau C&B Cymru, mae’r sefydliad yn wynebu dyfodol ansicr. Mae’r lefel gyfredol o incwm mae’r tîm bychan, prysur yn llwyddo i’w gynhyrchu yn annigonol, gan wneud yr elusen yn anghynaliadwy.Mae gan C&B Cymru record ardderchog o sicrhau incwm o ffynonellau amrywiol. Daw’r incwm hwn o gyfuniad o arian o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, tanysgrifiadau aelodau, nawdd, ac incwm a enillwyd. Er gwaethaf y defnydd o’r dull aml-haenog hwn, mae’r dasg o ddenu cyllid digonol yn hynod heriol yn yr hinsawdd sydd ohoni. Rhagwelir colled yn 2023/24, am yr ail flwyddyn yn olynol, a fydd yn lleihau cronfeydd wrth gefn yr elusen i ychydig dros £26K.NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=141049 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol. (WA Ref:141049)Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

Timeline

  1. Completed: Tender published29 April 2024
    Current notice
  2. Completed: Submission date24 May 2024

About the buyer

Celfyddydau & Busnes Cymru is a public sector buyer in United Kingdom publishing tenders and awards on Stotles. Explore their procurement activity and find more opportunities like this one.

Relevant CPV codes

  • 79400000 · Business and management consultancy and related services
  • 79900000 · Miscellaneous business and business-related services

AI insights

  • Is there a preferred supplier?
  • What are the buyers pain points?
  • What has the buyer previously procured?
  • What are the key requirements?
Sign-up to enrich

Decision makers

Connect with the people behind this procurement.

Contact nameJob titlePhone numberWork email
Head of Procurement+44 •••• ••••••
Commercial Director+44 •••• ••••••
Procurement Manager+44 •••• ••••••
Category Lead+44 •••• ••••••
Senior Buyer+44 •••• ••••••
Contracts Manager+44 •••• ••••••

30 similar open tenders

See more open tenders related to Adolygiad Busnes Celfyddydau & Busnes Cymru.

Explore all open tenders

Win more public sector contracts

Track every UK and Ireland tender in one place — set up alerts, find decision-makers, and never miss an opportunity.