Ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Details
- Topic
- Research and development services and related consultancy services
- Published
- 15 February 2022
- Submission
- 9 March 2022
- Source
- uk:sell2wales
Tender description
Mae’r contract hwn ar gyfer comisiynu ymchwil i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ganfod darlun manwl o agweddau myfyrwyr israddedig sy’n siarad Cymraeg ac yn astudio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ond ddim yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg), yn ogystal ag agweddau a chanfyddiadau myfyrwyr sy’n astudio tu allan i Gymru tuag at addysg cyfrwng Cymraeg. Gwahoddir ceisiadau gan gwmnïau addas i lunio adroddiad sy’n ystyried agweddau a chanfyddiadau y myfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru tuag at: • Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol; • Effeithiolrwydd Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg wrth annog myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg; • Y gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. rhestrau terminoleg a darpariaeth sgiliau iaith; • Yr hyn fyddai angen ei sicrhau er mwyn annog mwy o fyfyrwyr i ddilyn darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog; • Y math o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn. Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau tu allan i Gymru, hoffai’r Coleg ddeall: • Beth sy’n cymell myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau tu hwnt i’r ffin? • Beth yw eu canfyddiadau o sefydliadau addysg uwch Cymru? • Pa fath o ddylanwad caiff trefniadau cyllido myfyrwyr ar ddewisiadau myfyrwyr? • Pa fath o gynlluniau fyddai’n annog y myfyrwyr hyn i ddychwelyd i Gymru i astudio a/neu weithio ar ôl graddio? • Pa fath o negeseuon fyddai’n apelio at y myfyrwyr hyn ar gyfer eu denu yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru ar ôl graddio? Rhagwelir y bydd angen cynnal gwaith ymchwil ansoddol gyda myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, ar ffurf grwpiau ffocws ar-lein a/neu gyfweliadau ar-lein neu dros y ffôn yn ôl pob tebyg. Bydd angen i’r ymchwil adlewyrchu profiadau myfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg ac yn dod o gefndiroedd gwahanol gan gynnwys myfyrwyr sy’n astudio amrediad o bynciau mewn nifer o sefydliadau gwahanol, myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig. Ceir rhagor o fanylion yn y ddogfen gwybodaeth ychwanegol.
Timeline
- Completed: Tender published15 February 2022Current notice
- Completed: Submission date9 March 2022
About the buyer
Coleg Cymraeg Cenedlaethol is a public sector buyer in United Kingdom publishing tenders and awards on Stotles. Explore their procurement activity and find more opportunities like this one.
Relevant CPV codes
- 73000000 · Research and development services and related consultancy services
- 80000000 · Education and training services
Decision makers
Connect with the people behind this procurement.
| Contact name | Job title | Phone number | Work email |
|---|---|---|---|
| Head of Procurement | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov | |
| Commercial Director | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov | |
| Procurement Manager | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov | |
| Category Lead | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov | |
| Senior Buyer | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov | |
| Contracts Manager | +44 •••• •••••• | ••••••••@coleg-cymraeg-cenedlaethol.gov |
182 similar open tenders
See more open tenders related to Ymchwil ar agweddau myfyrwyr israddedig tuag at addysg uwch cyfrwng Cymraeg..
- Open tender
Learning and Development Suppliers Framework
Win more public sector contracts
Track every UK and Ireland tender in one place — set up alerts, find decision-makers, and never miss an opportunity.
