Closed tender

Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparu Cyngor Cyfreithiol i Gomisiynydd y Gymraeg

Details

Topic
Legal services
Published
7 December 2020
Submission
20 January 2021

Tender description

Cytundeb Fframwaith i ddarparu Cyngor Cyfreithiol i Gomisiynydd y Gymraeg Lot 1: Cyngor Cyffredinol i’r Comisiynydd 3.2.1 Cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud â dehongli a gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Gall hyn gynnwys unrhyw fater, heb gyfyngiad e.e. materion yn ymwneud a statws swyddogol y Gymraeg, cynghori ar y gwaith o osod safonau, ar gwaith wedi hynny wrth eu gweithredu a’i gorfodi gan ddelio â heriau, apeliadau ac adolygiadau. (Rhan 4 a 5 y Mesur) a chynnig cyngor ynghylch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn unol â Rhan 6 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. 3.2.2 Cyngor ynghylch Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 neu unrhyw ddeddfwriaeth, rheoliadau neu gyngor arall sy’n berthnasol i’r Comisiynydd, gweithrediad pwerau, dyletswyddau a swyddogaethau’r Comisiynydd. 3.2.3 Materion cysylltiedig â’r modd y gellir gweithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, pwerau, swyddogaethau a dyletswyddau’r Comisiynydd mewn cysylltiad â deddfwriaeth Brydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol arall. 3.2.4 Y gallu i gael mynediad at wasanaethau bar gyfreithiol lle bo’n briodol. 3.2.5 Cyngor a chymorth ynghylch unrhyw ddarpar ddeddfwriaeth, darpar reoliadau, benderfyniadau neu fwriadau a allai effeithio ar y Comisiynydd, ei swyddogaethau, ei swyddogion, ei eiddo neu ei bartneriaid. Bydd cymorth yn y cyd-destun hwn yn cynnwys y gallu i ddarparu gwasanaeth drafftio seneddol er dibenion cynnig gwelliannau i Fesurau neu Filiau neu ddeddfau ar lefel y Deyrnas Unedig a Chymru. 3.2.6 Cyngor ysgrifenedig y gall y Comisiynydd ei gyhoeddi er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg e.e. cyngor am faterion ar hawliau ieithyddol, iaith a chyflogaeth ayyb. Lot 2: Cynrychiolaeth mewn achosion a gwasanaethau bar gyfreithiwr 3.2.7 Cynrychioli’r Comisiynydd mewn achosion gerbron Tribiwnlys y Gymraeg, Llys Sirol, Uchel Lys, Llys Apêl neu’r Goruchaf Lys. Cynghori a chynrychioli’r Comisiynydd gydag adolygiadau barnwrol, ac ymyrryd mewn achosion cyfreithiol (Adrannau 8 - 10 y Mesur) neu mewn ymateb i adolygiadau barnwrol yn erbyn y Comisiynydd. 3.2.8 Cynghori’r Comisiynydd ar bwynt o gyfraith ac yn hynny o beth bydd gofyn i’r cwmnïau sy’n derbyn cytundeb fframwaith gael mynediad at wasanaethau bar gyfreithiol lle bo’n briodol, ac os bydd achosion lle fydd angen gwasanaeth Bargyfreithiwr yn codi. Lot 3: Cyflogaeth, adnoddau a llywodraethiant 3.2.9 Materion cyflogaeth sy’n gyffredin i gyrff cyhoeddus. 3.2.10 Cyngor am lesoedd adeiladau a materion eraill yn ymwneud ag adnoddau’r Comisiynydd. 3.2.11 Cyngor ar faterion diogelu data, rhyddid gwybodaeth, rheoliadau amgylcheddol a materion eraill yn ymwneud â llywodraethiant y Comisiynydd. 3.2.12 Unrhyw gyngor cyfreithiol arall y bydd y Comisiynydd yn gofyn amdano.

Timeline

  1. Completed: Tender published7 December 2020
    Current notice
  2. Completed: Submission date20 January 2021

About the buyer

Welsh Language Commissioner is a public sector buyer in United Kingdom publishing tenders and awards on Stotles. Explore their procurement activity and find more opportunities like this one.

Relevant CPV codes

  • 79100000 · Legal services

AI insights

  • Is there a preferred supplier?
  • What are the buyers pain points?
  • What has the buyer previously procured?
  • What are the key requirements?
Sign-up to enrich

Decision makers

Connect with the people behind this procurement.

Contact nameJob titlePhone numberWork email
Head of Procurement+44 •••• ••••••
Commercial Director+44 •••• ••••••
Procurement Manager+44 •••• ••••••
Category Lead+44 •••• ••••••
Senior Buyer+44 •••• ••••••
Contracts Manager+44 •••• ••••••

10 similar open tenders

See more open tenders related to Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparu Cyngor Cyfreithiol i Gomisiynydd y Gymraeg.

Explore all open tenders

Related buyers

Buyers similar to Welsh Language Commissioner.

View all buyers

Win more public sector contracts

Track every UK and Ireland tender in one place — set up alerts, find decision-makers, and never miss an opportunity.