Closed tender

Trawsnewid Isadeiledd i'r Cwmwl (English version = Infrastructure Cloud Transformation)

Details

Published
21 August 2020
Submission
4 September 2020

Tender description

Why the Work is Being Done Erbyn 31/03/2021 gweledigaeth y Comisiynydd yw sefydliad modern a hyblyg sydd ag isadeiledd TG â’r gallu i wasanaethu ei staff a'i randdeiliaid yn effeithlon. Nod y strategaeth yw trawsnewid y sefydliad gan elwa ar dechnoleg ac arferion trwy: 1. Galluogi gweithio hyblyg lle gall staff weithio o unrhyw leoliad gan leihau teithio a defnyddio papur, heb gyfyngiadau gormodol oherwydd newidiadau sefydliadol yn y dyfodol. 2. Darparu offer sy'n gyfredol yn dechnolegol, gyda systemau a meddalwedd sy'n gyfredol ac a gefnogir, sy'n cael eu huwchraddio'n rheolaidd yn unol ag argymhellion cyflenwyr. 3. Galluogi rhaglenni defnyddwyr gan ddefnyddio rhyngwynebau Cymraeg priodol 4. Cofleidio gwasanaethau cwmwl gan leihau presenoldeb offer ar safle, ac eithrio am resymau technegol neu achosion busnes hanfodol. 5. Cyflawni arbedion i gostau cefnogi gwasanaethau TG. 6. Cynnal cyfanrwydd, diogelwch a phreifatrwydd isadeiledd, offer, systemau a data'r sefydliad; gan sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth, rheoliadau ac arfer gorau. 7. Cyflwyno datrysiadau sy’n ‘fanila’ cyn belled ag y bo modd, gan ddatblygu systemau gyda’r egwyddor o ymreolaeth lle na chaiff newidiadau eu hatal ac y gall defnyddwyr y sefydliad gynnal a chadw systemau defnyddwyr, yn hytrach na datblygwyr arbenigol. Problem to Be Solved Bydd Pensaer Technegol yn: 1. Ymgymryd â darganfyddiad er mwyn diffinio a dylunio isadeiledd a gwasanaethau TG y sefydliad yn y dyfodol. 2. Gweithio gyda TG a defnyddwyr busnes yn y sefydliad i ddatblygu a dogfennu datrysiadau i ddiwallu'r Gofynion a'r anghenion busnes. 3. Creu biliau deunyddiau ac argymhellion cyflenwi. Bydd y Tîm Cyflenwi, pan fydd yn cael ei sefydlu, yn: 1. Datblygu a chytuno ar amserlen a chynllun prosiect ar gyfer gweithredu. 2. Cyflenwi adnoddau ac adeiladu'r isadeiledd, offer, meddalwedd a'r gwasanaethau fel y'u diffinnir yn y dyluniad technegol. 3. Cynnal profion technegol a chynorthwyo profion defnyddwyr. 4. Datblygu a gweithredu prosesau a ffyrdd newydd o weithio. Who Are the Users Gellir categoreiddio defnyddwyr y Comisiynydd yn y grwpiau canlynol o ran natur eu cyfraniad i'r prosiect: Rheolwr Prosiect y Cleient: 1. Rheoli'r prosiect fel y disgrifir yn 'Working Arragements' isod 2. Cyswllt rhwng y cyflenwr a'r Cyfarwyddwyr ar gyfer penderfyniadau a chymeradwyaeth Swyddog TG: 1. Cydweithio â'r Pensaer Technegol yn ystod y cyfnod ddarganfod a dylunio technegol 2. Cydweithio â'r Tîm Cyflenwi yn ystod y cyfnod gweithredu Defnyddwyr Cyffredinol: 1. Mewnbwn i'r darganfyddiad a'r dyluniad er mwyn pennu gofynion defnyddwyr 2. Arwain ar brofion defnyddwyr mewn cydweithrediad gyda'r Tîm Cyflenwi 3. Cydweithio ar ddatblygu a gweithredu ffyrdd o weithio newydd Defnyddwyr Busnes Penodol: 1. Mewnbwn i'r darganfyddiad a'r dyluniad er mwyn pennu gofynion busnes penodol 2. Arwain ar brofion defnyddwyr mewn cydweithrediad gyda'r Tîm Cyflenwi 3. Cydweithio ar ddatblygu a gweithredu prosesau busnes Early Market Engagement Work Already Done Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r Strategaeth. Yn seiliedig ar y Strategaeth hon, datblygwyd dogfen Gofynion manwl yn nodi: 1. Gweledigaeth, Nod ac Amcanion y Strategaeth TG. 2. Gwybodaeth am yr amgylchedd TG cyfredol, gan gynnwys manylion am y cyfyngiadau a'r diffygion canfyddedig y mae'r amgylchedd hwn yn eu rhoi ar weithrediad ac effeithlonrwydd y sefydliad. 3. Egwyddorion, cwmpas a manylion y Gofynion mewn perthynas â'r isadeiledd, offer, meddalwedd a gwasanaethau newydd y mae'r Comisiynydd yn dymuno eu gweithredu er mwyn cyflawni'r weledigaeth a'r nod a amlinellir yn y Strategaeth. Existing Team Cyswllt allweddol â'r Rheolwr Prosiect sy'n gyfrifol am gydlynu'r broses gyflenwi. Mae'r berthynas waith hon yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiect yn cyflawni’r gofynion, ar amser, un unol â’r gyllideb ac yn gwireddu'r buddion gweithredol ac ariannol. Ymgysylltu â'r Cyfarwyddwyr a fydd yn darparu cyfeiriad a chytundeb i'r cynnig dylunio technegol a'r costau. Cydweithrediad technegol TG gyda'r swyddog TG sydd â chyfrifoldeb am yr isadeiledd a'r gwasanaethau cyfredol. Ymgysylltu â'r Rheolwyr Tîm er mwyn darganfod, datblygu, cytuno a gweithredu gofynion y defnyddwyr a’r busnes. Current Phase Not started Work Location Mae'r Comisiynydd yn cyflogi tua 45 o staff mewn 4 swyddfa yng Nghaerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin a Rhuthun. Mae gwasanaethau TG canolog wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, ac mae gwasanaethau TG rhanbarthol wedi'u lleoli yn y swyddfeydd eraill. Mae amryw o weithgareddau busnes wedi'u lleoli ar draws pob swyddfa gyda rhai gweithgareddau wedi'u canoli mewn swyddfa benodol. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei wneud trwy gyfuniad o waith ar safle gydag elfen sylweddol o ymgysylltiad rhithwirol gyda staff y Comisiynydd, trwy fideo-gynadledda, oherwydd cyfyngiadau cyfredol iechyd cyhoeddus Covid-19. Working Arrangments Prif bwynt cyswllt y cyflenwr fydd Rheolwr Prosiect y cleient, at ddibenion: 1. Cyswllt â staff yn y sefydliad. 2. Rheoli’r cynllun prosiect, risgiau a materion yn codi, amserlenni a chostau 3. Bydd angen ymweliadau safle i gynnal darganfyddiad llawn a dyluniad; ac yn ôl yr angen wrth gyflawni’r prosiect. Bydd angen cyswllt naill ai wyneb yn wyneb neu’n rhithwirol rhwng y cyflenwr a staff allweddol TG a Gweithredol yn ystod y prosiect er mwyn hwyluso: 1. Darganfyddiad, datblygu a dylunio datrysiadau busnes 2. Adeiladu a Phrofi 3. Gweithredu prosesau 4. Hyfforddiant Security Clearance No specific security clearance required Additional T&Cs Skills & Experience Pensaer Technegol gyda sgiliau darganfod, dadansoddi a dylunio Sgiliau Rheoli Prosiect Gallu i ddiffinio Biliau Deunyddiau a chostau Sgiliau cyfathrebu gyda'r gallu i esbonio a dehongli materion technegol i ddefnyddwyr nad ydynt yn dechnegol Gwybodaeth dechnegol o offer cyfrifiadurol defnyddwyr Gwybodaeth am raglenni a meddalwedd defnyddwyr Gwybodaeth am galedwedd a meddalwedd isadeiledd Gwybodaeth am gysylltiadau rhyngrwyd Sgiliau a phrofiad o storfeydd gwybodaeth a data Sgiliau dadansoddi a dylunio prosesau Dealltwriaeth o ddiogelwch a uniondeb systemau a data Sgiliau Profi Technegol a Phrofion Defnyddwyr Nice to Haves Cymhwyster rheoli prosiect PRINCE2 neu gyfatebol Gwybodaeth o systemau a gwasanaethau teleffoni Gwybodaeth o systemau a gwasanaethau fideo-gynadleddau Sgiliau a phrofiad dylunio storfeydd data a systemau CRM Sgiliau a phrofiad hyfforddi defnyddwyr No. of Suppliers to Evaluate 6 Proposal Criteria Datrysiad technegol sy'n ateb y weledigaeth, nod ac amcanion y strategaeth Ymagwedd a methodoleg gadarn tuag at gyflawni'r prosiect Dyluniad a'r Cyflenwi yn cyrraedd gofynion technegol a gweithredol y sefydliad Y prosiect yn cael ei gyflawni i'r amserlen ofynol (31/03/2021) Ymagwedd gadarn at adnabod a rheoli risgiau, materion yn codi a dibyniaethau Gwerth am Arian wrth gyflenwi'r prosiect Fforddiadwyedd y gwasanaeth TG yn y dyfodol, gan gyflawni buddion yr achos busnes Cultural Fit Criteria Gweithio fel tîm gyda'n sefydliad Dull gwneud penderfyniadau yn gydweithredol a thryloyw Rhannu eu gwybodaeth a'u harbennigedd Gweithio'n dda gyda chleientiaid gyda gallu technegol isel Cymryd cyfrifoldeb am eu gwaith Yn ddymunol bod aelodau'r tîm gyda'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg Payment Approach Capped time and materials Assessment Method Case study Work history Reference Presentation Evaluation Weighting Technical competence 40% Cultural fit 10% Price 50% Questions from Suppliers No questions have been answered yet Budget range

Timeline

  1. Completed: Tender published21 August 2020
    Current notice
  2. Completed: Submission date4 September 2020

About the buyer

Welsh Language Commissioner is a public sector buyer in United Kingdom publishing tenders and awards on Stotles. Explore their procurement activity and find more opportunities like this one.

AI insights

  • Is there a preferred supplier?
  • What are the buyers pain points?
  • What has the buyer previously procured?
  • What are the key requirements?
Sign-up to enrich

Decision makers

Connect with the people behind this procurement.

Contact nameJob titlePhone numberWork email
Head of Procurement+44 •••• ••••••
Commercial Director+44 •••• ••••••
Procurement Manager+44 •••• ••••••
Category Lead+44 •••• ••••••
Senior Buyer+44 •••• ••••••
Contracts Manager+44 •••• ••••••

Related topics

Topics related to Trawsnewid Isadeiledd i'r Cwmwl (English version = Infrastructure Cloud Transformation), ranked by notice volume.

View all topics
TopicCountValue
  1. 4,088
    £269.5bn

Related buyers

Buyers similar to Welsh Language Commissioner.

View all buyers

Win more public sector contracts

Track every UK and Ireland tender in one place — set up alerts, find decision-makers, and never miss an opportunity.